Rydw i’n cofio fy nghyswllt cyntaf erioed gydag afancod yn y gwyllt, 35 mlynedd yn ôl pan oeddwn i’n aros ar fferm yn Jamtland yn Sweden. Roeddwn i’n aros gydag Erik, heliwr a ffermwr a oedd hefyd yn gweithio yn y dref leol. Roedd ei fferm deuluol yng nghanol cefn gwlad bendigedig gyda gweilch y pysgod, hwyaid llygaid aur a garanod yn magu ar y corsydd ac, yn y coedwigoedd, roedd elcod ac afancod yn byw. Rydw i’n cofio meddwl mai fel hyn y dylai’r Alban fod. Un noson, fe gerddais i at yr afon a oedd yn llifo’n araf heibio ac, ar ôl cael fy erlid gan fosgito, fe welais i fy afanc cyntaf; ond roedd wedi synhwyro fy mod i’n nesáu ac ar drawiad ei gynffon, roedd wedi diflannu. Fe eisteddais i i lawr ar bentwr o goed bedw wedi’u torri gan yr afanc, ond offer fu’r aros. Holais Erik am ei farn am y coed bedw wedi’u torri gan yr afancod ar draws ei lwybr. Roedd ei ymateb mor ddoeth: ‘Rydw i’n aros tan y gaeaf ac wedyn yn gyrru i lawr gyda ’nhractor a’r trelar ac yn casglu’r coed – maen nhw’n barod yn hwylus iawn i mi ar gyfer fy stôr o goed. Ac weithiau fe fydda’ i’n hela un. Fyddet ti’n hoffi cael afanc i swper nos fory? Mi dynna i un allan o’r rhewgell.’ Roeddwn i’n meddwl ei fod yn neis, wedi’i goginio’n dda, rhywbeth rhwng ysgyfarnog ac iwrch.
Roeddwn i’n hoffi’r ffordd ddi-lol yr oedd Erik yn byw gyda’r afancod ac roedd hefyd yn cydnabod eu gwerth i’r ecosystem tir gwlyb. Am y gwerth hwnnw y mae’r llyfr rhagorol yma’n sôn; mae wedi’i ysgrifennu gan 12 o arbenigwyr sydd wedi dod â chyfoeth o brofiad at ei gilydd ac, yn bwysicach, stôr o wybodaeth am sut gallwn ni ddysgu byw gydag afancod unwaith eto ym Mhrydain Fawr.
Rydw i mor falch bod afancod yn ôl yn ein gwlad ni oherwydd rydw i’n sylweddoli eu bod nhw’n hanfodol i helpu i reoli’r ecosystemau naturiol o dir gwlyb. Mae wedi cymryd amser maith – llawer mwy nag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl pan gymerais i ran yn y drafodaeth ddifrifol gyntaf fel aelod o fwrdd Scottish Natural Heritage nôl ar ddechrau’r 1990au. Mae arbrawf gwyddonol llwyddiannus wedi cael ei gynnal gan Gymdeithas Sŵolegol Frenhinol Caeredin ac Ymddiriedolaeth Natur yr Alban ar dir sy’n eiddo i Gomisiwn Coedwigaeth yr Alban, a gyda chyfraniad gwyddonol gan Scottish Natural Heritage. Mae afancod, oherwydd eu natur, wedi dod i’r golwg ar eu liwt eu hunain yn nalgylch Tay yn yr Alban hefyd, ac mewn mannau eraill ym Mhrydain yn achlysurol. Y gobaith ydi y bydd y llywodraeth yn gwneud penderfyniad yn fuan ac yn datgan y dylai’r rhywogaeth bwysig hon fod yn rhan unwaith eto o’n ffawna naturiol ni, ac y gallwn weld ei hadfer unwaith eto yn ei chynefin gwreiddiol.
Wrth i mi grwydro i astudio afancod a siarad gydag arbenigwyr ar afancod mewn gwledydd Ewropeaidd amrywiol, rydw i wedi synnu at eu gwybodaeth am y rhywogaeth a’u dealltwriaeth ohoni yn eu gwledydd. Maent yn defnyddio synnwyr cyffredin ac yn gweithio ac yn byw gydag anifail sy’n gallu synnu dyn ar adegau.
Mae tua chant o dudalennau i’w darllen yma ac fe gewch chi ddysgu popeth y mae arnoch angen ei wybod am hanes ac ecoleg afancod, eu heffaith ar weithrediadau dyn a’u gwerth yn yr ecosystem. Bydd adfer ecosystemau mewn byd mor fregus yn dod yn rhan fwyfwy canolog o’n hethos ni ym maes cadwraeth natur. Mae’r awduron yn ysgrifennu am sawl agwedd ar sut mae rheoli afancod a’u gweithgareddau; o reoli argaeau’n rhagweithiol i ddulliau newydd o leihau eu heffaith ar ein buddiannau ni. Ceir gwybodaeth am ddal, trawsleoli, difa a phynciau niferus eraill. Rydw i wedi bod o’r farn erioed bod rhaid wrth gyfundrefn reoli gadarn os am ddod ag afancod yn ôl ledled Prydain Fawr, ac os am ymateb yn gyflym i’r rhai sy’n gofyn am help wrth i afancod greu problemau iddynt.
Mae prif ran y llyfryn hwn yn cloi gyda dysgu byw gydag afancod, a hon fydd yr agwedd bwysicaf o bosib. Rydw i’n credu ei bod yn hanfodol i ffermwyr, coedwigwyr, pysgotwyr a phob un ohonom ni dderbyn y bydd rhai rhywogaethau’n achosi problemau i ni ar adegau, ond bod rhaid i ni gofio bod angen llu o rywogaethau a gweithredoedd ym myd natur er mwyn galluogi i ni ffermio a physgota, tyfu cnydau a choed, a chael dŵr ffres ac awyr iach i’w anadlu. Rydyn ni, fel yr afancod, yn rhan o’r ecosystem fawr yr ydyn ni’n ei galw’n Ddaear. Mae’n rhaid i ni ddathlu dychweliad y meistr ar beirianneg dŵr.
Roy Dennis, 2015
Highland Foundation for Wildlife